Cynghorydd Tref Llanfairfechan - Ward Pandy
Cynghorydd Tref dros ward Pandy ar Gyngor Tref Llanfairfechan ydw i.Swyddog Aelodaeth a Data’r blaid leol ydw i hefyd. Rydw i'n dod o Norwy yn wreiddiol, ond symudais i Gymru bum mlynedd yn ôl i astudio cyfrifiadureg a deallusrwydd artiffisial ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydw i'n astudio ar gyfer gradd meistr mewn technolegau iaith ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.
Rydw i'n hoffi ieithoedd ac rydw i'n dysgu Cymraeg.
Rydw i’n frwd dros wneud cymdeithas fwy rhyddfrydol, agored a chynhwysol. Mae gen i hefyd ddiddordeb mewn datganoli a materion cyfansoddiadol eraill.
Gallwch chi gysylltu â mi drwy: