-
Cychwyn rhaglen fuddsoddi ar raddfa fawr mewn ôl-ffitio cartrefi (gan gynnwys defnyddio pympiau gwres aer) gan ddechrau gyda chartrefi gwledig a thai cymdeithasol. Eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni, arbed arian i deuluoedd, lleihau tlodi tanwydd, creu miloedd o swyddi a helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
-
Goruchwylio adeiladu 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd ledled Cymru gan helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, atal pobl ifanc rhag cael eu prisio allan o'u cymunedau a darparu swyddi â sgiliau uchel sy'n talu'n dda i bobl leol.
-
Sicrhai yr hawl i gael mynediad i lety diogel, hygyrch a chynnes yn ôl y gyfraith.
-
Lleddfu cyfyngiadau cynllunio ar gartrefi gwledig newydd lle gall y prosiect adeiladu ddangos enillion amgylcheddol net sylweddol.
-
Byddwn yn adeiladu 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd mewn cymunedau lle mae eu hangen fwyaf.
-
Rhoi diwedd ar ddigartrefedd mewn un degawd.