Y Farwnes Christine Humphreys
Arferai Chris fod yn Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a chyn hynny, yn Aelod o’r Cynulliad rhwng 1999 a 2001. Hi oedd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru ar yr Economi, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd. Roedd Chris hefyd yn gynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Bwrdeistref Bae Colwyn.
Yn flaenorol, roedd Chris yn athro Saesneg, ac yn Bennaeth Galwedigaeth mewn Ysgol Gymraeg. Mae hi'n siaradwr Cymraeg.
Penodwyd Chris i Dŷ'r Arglwyddi ym mis Medi 2013.